MAI 2021 | RHIFYN 2 NEWYDDION GWIRFODD I Eich diweddariad misol ar bob peth am wirfoddoli yn Outside Lives! YN EIN RHIFYN MIS MAI... Newyddion Cyfleoedd Gwirfoddoli Loteri Credydau Amser Newyddion Busnes Diweddariad Safle Ailddefnyddio & Ailgylchu CROESO GAN LUCY POWELL Sylfaenydd & Rheolwr Gyfarwyddwr Croeso i'r ail rifyn o'n cylchlythyr! Mae na nifer o ddatblygiadau cyffrous wedi bod yma yn Outside Lives y mis yma... lansiwyd ein Sianel Happy News, gwersi Settle and Soothe a cawsom ein sesiwn gwirfoddoli wyneb yn wyneb gyntaf yma ar y safle! Rydym hefyd wedi dechrau cydweithio â nifer o artistiaid fydd yn cynnal sesiynau newydd i ni yn y dyfodol agos.... felly edrychwch allan am fwy o wybodaeth! Mae gennym nifer o gyfleoedd gwirfoddoli yn dod fyny yn fuan iawn, felly os nad ydych wedi cofrestru eto, ewch i'n gwefan newydd (www.outsidelivesltd.org) edrychwch ar ein tudalen gwirfoddoli a cofrestrwch! Mae'r gwaith ar y safle wedi parhau ar gyflymder i'w baratoi ar gyfer haf o ddigwyddiadau cyffrous. Diolch i dîm o wirfoddolwyr a ymunodd a ni am y “Rakeover 60 Munud”, roeddem yn gallu tacluso’r llwybrau ac mae ein gwaith gyda’r ymddiriedolaeth bywyd gwyllt wedi arwain at gael gwrych hardd wedi’i osod, a fydd yn lwybr ar gyfer bywyd gwyllt lleol! CYFLEOEDD GWIRFODDOLI! Beth i edrych mlaen at yn y misoedd nesaf... Wrth i'r cyfyngiadau COVID ddechrau llacio, rydym yn dechrau cynnig rhai o'r cyfleoedd mwy ymarferol (fel garddio ayyb). Mae gennym gyfleoedd o hyd i bobl weithio o bell hefyd (mae gennym dasgau un tro, gweithgareddau bach eu maint ac ymrwymiadau parhaus) felly beth bynnag yw eich diddordebau a pha bynnag amser mae bywyd yn sbario, bydd gennym rhywbeth sy'n addas i chi! Adnewyddu'r Pwll- Rydym yn lansio prosiect newydd i ailsefydlu ein pwll bywyd gwyllt yma ar y safle. Rydym yn chwilio am dîm o bobl i'n helpu gyda hyn. Cyfryngau Digidol - Mae gennym lawer o gyfleoedd yma, o olygu fideos i helpu i rannu negeseuon ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych ddiddordeb yn ochr ddigidol marchnata, cysylltwch â ni. Newyddiaduraeth - Diolch i Penny Lynch sy'n gweithio gyda ni fel ein "newyddiadurwraig". Mae gennym gyfleoedd eraill yma o hyd hefyd, felly i'r holl ddarpar newyddiadurwyr ... rydym yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn riportio, naill ai trwy greu fideos o adroddiadau newyddion ar gyfer ein Sianel Happy News neu trwy ysgrifennu erthyglau ar bethau sy'n digwydd yn OL , (a fyddai'n cyfrannu at ein blog a'n cylchlythyrau fel hwn). Digwyddiadau Bwyd - rydym yn chwilio am grŵp o wirfoddolwyr i helpu i gyd-gynhyrchu rhai digwyddiadau bwyd yr ydym wedi'u cynllunio ar gyfer yr haf. Felly os yw hyn yn rhywbeth sy'n eich diddori byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Hoffwn glywed gan unrhyw un sydd am gymryd rhan. Os hoffech ddarganfod mwy am y rolau hyn e-bostiwch: [email protected] NEU gallwch gofrestru i fod yn wirfoddolwr gyda ni trwy glicio yma DIWEDDARIAD LOTERI CREDYDAU AMSER! Mae pawb a wirfoddolodd gyda ni y mis diwethaf wedi derbyn rhai Credydau Amser. Hoffwn glywed sut y gwnaethoch eu defnyddio. MAE NA LAWER YN DIGWYDD YN Y PENCADLYS! Dyma chydig o bethau i gadw llygad ar mis yma: GWERSI CELF - Os ydych yn mwynhau gweithgareddau celf a chrefft, edrychwch ar ein tudalen Facebook am fanylion neu defnyddiwch y ffurflen ymholiadau ar ein gwefan i ddarganfod mwy. Mae dosbarthiadau celf yn digwydd trwy Zoom ar nos Fercher. Croeso i bobl o bob gallu ac oedran. Mae dosbarthiadau'n costio £5 y sesiwn (yn daladwy cyn y sesiwn). SETTLE AND SOOTHE - 45-munud o ioga gorffwysol, ymlacio dwfn a myfyrio ar gyfer y profiad adferol eithaf. Sesiynau wedi cychwyn ar 13eg Ebrill, ond gellir ei wneud yn fyw neu ei chwarae yn ôl pan yn gyfleus. Mae cwrs o 6 dosbarth yn costio £30. Edrychwch ar Facebook am sut i archebu. HISTORY OF HERE - Mae'r prosiect gwych yma’n parhau i ddogfennu hanes lleol a chynhyrchu ffyrdd creadigol o ddweud popeth wrthych. Edrychwch ar y wefan (www.historyofhere.com) CYFNEWID PLANHIGION! Mae ein menter Cyfnewid Planhigion Cymunedol yn ôl! Yn syniad gwreiddiol gan Toni Wolstenholme, gwelodd Cyfnewid Planhigion y llynedd lawer ohonoch yn cymryd rhan trwy sefydlu byrddau yn eich ardaloedd lleol i alluogi'r gymuned i gyfnewid hadau a phlanhigion gyda'u gilydd. I'r rhai sydd heb unrhyw blanhigion i'w cyfnewid, gellir dal cymryd planhigion (gyda phot cyfrannu ar gael ar bob bwrdd). O ystyried llwyddiant y byrddau hyn yn 2020 penderfynwyd ei ail- lansio yn 2021. Diolch i gronfa "Food For Life" y Soil Association roeddem wedi gallu darparu rhai byrddau i bobl eu defnyddio eleni ... ac yn dilyn gyrru nodyn ar Facebook, cawsant eu bachu yn gyflym!. Os ydych am sefydlu'ch bwrdd eich hun, ymwelwch â'n gwefan ac ewch i'r adran gyfryngau i ddarganfod mwy! DYLUNIO A CHYFLAWNI Rydym yn edrych am wirfoddolwyr i'n helpu i ddylunio gardd dawelwch o amgylch Tŷ Lles (ein Iwrt Lles newydd).. Y syniad yw creu lle tawel ac ymlaciol y gall pobl ddod iddo pan fyddant yn dymuno stopio a myfyrio. Mae angen i'r ardd fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn, creu cynefinoedd bywyd gwyllt, ymgorffori rhywfaint o blannu meddyginiaethol a darparu profiad o’r synhwyrau. I gyd-fynd ag arddull Outside Lives, hoffem hefyd ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailosod neu eu hailgylchu lle mae hynny’n bosib. Os hoffech gymryd rhan yn y gwaith o ddylunio neu gyflawni'r prosiect hwn, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r ffurflen ymholiadau ar y wefan. . BE SY' N NEWYDD AR Y WEFAN Diolch i arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru, rydym wedi gallu parhau i ddatblygu ein gwefan. I’n holl siaradwyr Cymraeg, rydym wrth ein boddau nawr i allu darparu ein gwefan yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Mae hwn yn gam mawr ymlaen yn ein hawydd i ddarparu adnoddau dwyieithog. Rydym hefyd wedi ychwanegu adran cyfryngau er mwyn rhoi cartref i’n blog a'n herthyglau am bethau sy'n digwydd. Mae modd i chi gyflwyno blogiau i ni hefyd. CYFLWYNO PENNY! Mae Penny bellach yn wirfoddolwr rheolaidd gyda Outside Lives felly gadewch i ni ddarganfod mwy amdani: "Rwy'n byw yn Ysceifiog gyda fy ngŵr, ynghyd â'n cŵn, cathod, ieir a defaid - i gyd yn byw gyda'u gilydd ar ein tyddyn. Rwyf wrth fy modd yn garddio, ac mae gen i ardd lysieuol, ynghyd â gardd flodau sy'n datblygu'n barhaus. Rwy'n ysgrifennu rhywfaint ar gyfer cylchlythyrau, blogiau a datganiadau cyfryngau cymdeithasol Outside Lives. Rwyf bob amser wedi mwynhau taro’r bysellfwrdd, ac fel athrawes, rwyf wrth fy modd yn cyfathrebu â phobl hefyd. Gan ein bod i gyd wedi dysgu cynnal cyfarfodydd ar Zoom, gallaf nawr ddarganfod beth mae pobl yn ei wneud, heb hyd yn oed adael fy nghartref. Fel bonws, mae hyn yn rhywbeth y gallaf ei wneud pan mai’n rhy wlyb ac oer y tu allan i fynd i'm gardd fy hun.” DIWEDDARIAD AR EIN PROSIECTAU Dyma ddiweddariad ar rai o brosiectau presennol Outside Lives ... Fel arfer, mae yna lawer o brosiectau yn digwydd yn Outside Lives! I ddarganfod mwy am y prosiectau yma a pwy sy’n cael eu cefnogi ganddynt ewch i'r dudalen prosiectau ar ein gwefan. Dyma cwpl o uchafbwyntiau: PRODUCE TO PLATE - Mae hwn yn brosiect tyfu a rhannu bwyd a ariennir gan y Soil Association – Food for Life. Rydym eisoes wedi sôn am y fenter cyfnewid planhigion gwych ac os ydych angen unrhyw gyngor "tyfu 'arnoch, edrychwch ar ein sesiynau Holi ac Ateb gyda Rachel Farr (ein harbenigwr tyfu organig) sydd i'w gweld ar YouTube. Rydym hefyd yn gobeithio cynnal rhai digwyddiadau bwyd trwy'r haf, felly cysylltwch â ni os hoffech gymryd rhan CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU - tanysgrifiwch i sianel YouTube Outside Lives ac edrychwch ar y ddwy gyfres gwych o fideos sydd wedi'u cynhyrchu ar gyfer y prosiect hwn. Mae'r gyfres "Make, Move, Do" yn darparu gweithgareddau ysbrydoledig a gyflwynir gan ystod eang o artistiaid. Mae'r gyfres "Creative Lives” yn cynnwys nifer o artistiaid sy’n siarad am eu proffesiynau, eu meysydd arbenigedd a sut mae nhw wedi datblygu eu gyrfaoedd. BE S Y ' N D IGWYDD AR Y SAFLE... BYWYD YN Y PWLL Rydym wrth ein boddau ein bod yn cychwyn ar brosiect newydd i ailsefydlu ein pwll bywyd gwyllt yma ar y safle! Mae'r rhyfeddol Luisa yn arwain y prosiect ac mae'n chwilio am dîm o selogion bywyd gwyllt brwd i weithio gyda hi. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect hwn, cysylltwch â ni drwy ein gwefan a chofrestru fel gwirfoddolwr. Gellid defnyddio'r ddolen yn adran gwirfoddolwyr y cylchlythyr hwn. PLYGU GWRYCH! Fel rhan o'n prosiect ‘Into the Woods’, bu un o'n gwirfoddolwyr ifanc, Sam, yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru i blygu gwrych ar ein safle yng Ngwernymynydd. Yn ogystal â bod yn rhan o blygu'r gwrychoedd, treuliodd beth amser hefyd yn dogfennu'r hyn y bu i ni ddysgu. Edrychwch ar ei fideo ar Sianel You Tube Outside Lives. Byddwch yn dysgu popeth am sut i blygu gwrych a hefyd pam mae gwrychoedd mor bwysig. Da iawn Sam, rwyt yn gyflwynydd naturiol ... gwylia allan Chris Packham! RAKEOVER 60 MUNUD Diolch i'r grŵp o wirfoddolwyr a ymunodd â ni ar y safle ar gyfer ein Rakeover 60 Munud cyntaf. Treuliodd ein gwirfoddolwyr gwych awr yn gweithio gyda'u gilydd i dacluso rhai o'r llefydd gwyrdd fel eu bod yn barod i bobl ddechrau mynychu eto. Fe wnaethant waith rhyfeddol ... mae'n wir iawn bod llawer o ddwylo'n gwneud y gwaith yn rhwyddach! Ydych yn gwybod am unrhyw un a allai elwa o Rakeover 60 Munud? Efallai bod rhywun sydd ag iechyd yn eu hatal rhag mynd allan i’w gardd? Os hoffech enwebu unrhyw rhywun ar gyfer Rakeover 60 Munud, defnyddiwch y ffurflen ymholiadau ar y wefan gan roi cymaint o fanylion a phosib. DIOLCHIADAU. . . Mae llawer o declynnau offer gardd hyfryd wedi cael eu rhoi gan bobl i'w defnyddio ar y safle Rydym wedi derbyn llawer o baletau pren a ddefnyddiwyd i wneud ein byrddau cyfnewid planhigion rhagorol Argraffodd Double Click Design & Print yn Deeside ein baneri cyfnewid planhigion ac rydym yn eu CARU nhw! Outside Lives Ltd. Cyfeiriad Cofrestredig: Neuadd Aberduna, Ffordd Maeshafn, Gwernymynydd, Yr Wyddgrug CH5 7LE
Enter the password to open this PDF file:
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-