EBRILL 2021 | CYFROL 1 NEWYDDION GWIRFOD I Eich diweddariad misol ar bob peth am wirfoddoli yn Outside Lives! YN EIN RHIFYN MIS EBRILL... Newyddion Cyfleoedd Gwirfoddoli Loteri Credydau Amser Newyddion Busnes Diweddariad Safle Ailddefnyddio & Ailgylchu CROESO MAWR I' N CYLCHLYTHYR! Lucy Powell, Sylfaenydd & Rheolwr Gyfarwyddwr Croeso i rifyn cyntaf ein cylchlythyr! Rydym yn gyffrous iawn i lansio hwn fel ffordd o roi gwybod i chi am y pethau rydym yn gwneud nawr neu yn y dyfodol yr hoffwn i chi ymuno â nhw. Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn brofiad gwahanol iawn i ni gyd. Yma yn Outside Lives bu'n rhaid i ni symud o sefydliad oedd yn hoffi gwneud pethau wyneb yn wyneb i gwmni a oedd yn gorfod cyflawni pethau ar-lein. Ond, rydym wedi croesawu'r profiad, gan lansio ein Sianel Youtube, cynnal dosbarthiadau, gweithdai, cwisiau a dal i fyny ar Zoom. Rydym hyd yn oed wedi llwyddo i ffilmio cyfweliadau diddorol gan ddefnyddio ‘Streamyard’. Ein bwriad yw aros yn ddigidol yn bennaf am hanner cyntaf eleni, ac yna adolygu a yw'n ddiogel i ddechrau agor y safle eto. Wrth i'r gwanwyn ddechrau ymddangos, rydym i gyd yn dechrau dod allan o gyfnod y gaeaf ac edrychwn ymlaen at bethau i ddod. Mae'r dyddiau hirach a cynhesach yn dechrau gwneud i chi feddwl am fwynhau'r awyr agored yn fwy ac efallai i'r garddwyr o bob gallu, yr hyn y gallech ei dyfu. Cadwch olwg allan am lawer o wybodaeth am dyfu bwyd... mae ein fideos gyda Rachel Farr o Fferm Cae Rhug yn ffynhonnell arbennig o ysbrydoliaeth. CYFLEOEDD GWIRFODDOLI! Beth gallwch edrych ymlaen at yn y misoedd nesaf... Gyda'r safle ar gau, nid yw rhai o'n cyfleoedd mwy ymarferol ar gael eto, ond mae gennym lawer o gyfleoedd ar gyfer tasgau y gellir eu gwneud o bell. Mae gennym dasgau un tro, gweithgareddau tameidiog ac ymrwymiadau parhaus, felly beth bynnag yw eich diddordeb a be bynnag mae'ch bywyd yn ei ganiatáu, rydym yn debyg o fod gyda rhywbeth sy'n addas i chi. Siarad Cymraeg - Rydym eisoes wedi cael nifer o bobl yn dod ymlaen i'n helpu gyda hyn (diolch yn fawr i chi), ond hoffwn glywed gan unrhyw arall fyddai gyda amser i'n cefnogi i sicrhau bod ein hadnoddau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gweinyddol - Mae gennym nifer o dasgau gweinyddol yr hoffem gael cymorth gyda (gweithgareddau fel trawsgrifio ac ymchwilio). Cyfryngau Digidol - Mae gennym lawer o gyfleoedd yma, o olygu fideos i helpu i rannu negeseuon ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb yn yr ochr ddigidol o farchnata. Newyddiaduriaeth - i'r holl ddarpar newyddiadurwyr, rydym yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn adrodd, naill ai drwy gwblhau adroddiadau newyddion fideo ar gyfer ein Sianel ‘Happy News’, neu drwy ysgrifennu erthyglau ar bethau sy'n digwydd yn OL, (a fyddai'n cyfrannu at ein blog a'n cylchlythyrau fel hwn). Hoffwn glywed gan unrhyw un sydd am gymryd rhan. Os ydych am wybod mwy am y rolau hyn, anfonwch e-bost at: [email protected] NEU gallwch gofrestru i fod yn wirfoddolwr gyda ni drwy glicio yma ENNILYDD Y LOTERI CREDYD AMSER! Dod yn fuan.....gwyliwch y gofod hwn YMUNWCH A NI! Mae llawer yn digwydd ym Mhencadlys Outside Lives Dyma ychydig o bethau sy'n werth eu edrych am mis yma: GWERSI CELF - Os ydych yn mwynhau gweithgareddau celf a chrefft, edrychwch ar ein tudalen Facebook am fanylion, neu defnyddiwch y ffurflen ymholiadau ar ein gwefan i gael gwybod mwy. Mae dosbarthiadau celf yn digwydd drwy Zoom ar nos Fercher. Croesawir pob gallu. Mae dosbarthiadau'n costio £5 y sesiwn SETLO AC YMLACIO - 45 munud o ioga gorffwys, ymlacio dwfn a myfyrdod ar gyfer y profiad adferol eithaf. Sesiwn yn dechrau ar 13 Ebrill, ond gellir ei wneud yn fyw neu ar amser i siwtio eich hun drwy ein opsiwn ailchwarae. Mae cwrs o 6 dosbarth yn costio £30. Edrychwch ar Facebook am gyfarwyddiadau archebu. SIANEL HAPPY NEWS - mae ein Sianel 'Happy News' yn cael ei lansio mis yma a fydd yn dathlu straeon cadarnhaol o'r ardal leol. Eto, edrychwch ar Facebook am ddiweddariadau pellach. BEE HAPPY! Efallai eich bod wedi darllen ar ein cyfrifon cymdeithasol am ddatblygiadau gyda’n prosiect ‘BEE HAPPY’ a ariennir gan Loteri Cod Post y Bobl. Rydym yn canolbwyntio ar ail wylltio rhan o'r safle o fewn y coetir hynafol, hau blodau gwyllt a chreu cynefinoedd naturiol i annog gwenyn a gloÿnnod byw i ddychwelyd i'r gofod a helpu i gefnogi eu niferoedd, ynghyd â sefydlu cartref ar gyfer bywyd gwyllt arall. Yn fuan, byddwn hefyd yn derbyn cwch gwenyn hardd a wnaed yn lleol, ynghyd â haid o wenyn. Diolch i Phil Lewis o PHL Joinery, a fydd hefyd yn parhau i'n cefnogi i ofalu am y gwenyn ar y safle a hefyd darparu rhywfaint o addysg ar ofal gwenyn i'r rhai sydd â diddordeb (pan fydd yn ddiogel gwneud hynny). PECYN CYMORTH POBL A' R BLANED Ar ddechrau mis Chwefror lansiwyd ein pecyn cymorth POBL A'R BLANED, casgliad o adnoddau a gynlluniwyd ar gyfer rhieni a phlant (3-11 oed), diolch i gyllid gan CGLlSFf a Sefydliad Cymunedol Cymru. Rydym wedi penderfynu sicrhau ei fod ar gael eto drwy gydol gwyliau'r Pasg, felly edrychwch arno! Roedd hon yn ymdrech tîm go iawn gyda adnoddau wedi eu cynllunio a'u darparu gan nifer o'n gwirfoddolwyr, gan gynnwys amrywiaeth o weithgareddau i deuluoedd eu gwneud a gwrando ar draws nifer o gyfryngau. Roeddem yn ffodus bod hyn wedi'i gymeradwyo gan y fenter Ysgolion Iach yn Sir y Fflint ychydig cyn hanner tymor. Gwelsom dros 2,500 o ymweliadau â'r safle a nifer enfawr o raniadau ar-lein yn darparu adnodd gwych dros gyfnod heriol. Diolch i bawb a helpodd i wneud i hyn ddigwydd! GWEFAN NEWYDD Mae gennym wefan newydd! Diolch i gyllid gan Sefydliad Cymunedol Cymru, rydym wedi gallu buddsoddi yn ein presenoldeb ar-lein, a gallwch ein gweld yn www.outsidelivesltd.org Rydym yn ychwanegu nodweddion newydd drwy'r amser, a thros yr wythnosau nesaf byddwch yn gallu cael mynediad i ddigwyddiadau a'u harchebu, cael diweddariadau prosiect ac os dymunwch, gwneud rhoddion i Outside Lives. Mae hyn yn newyddion MAWR i ni, gan y bydd y wefan yn dechrau dod y brif ffordd y byddwn yn ymgysylltu â'n dilynwyr a'n gwirfoddolwyr, felly edrychwch allan am ddiweddariadau! CYFLWYNO KATE Mae Kate Bowyer wedi ymuno â'n tîm fel ein Cydlynydd Pobl. Mae'n cefnogi holl reolaeth o’n cofrestriadau a'n gweithgareddau i’n gwirfoddolwyr, gan hyd yn oed yn ein cefnogi gyda'r gweithgareddau archebu sy'n ymwneud â'r dosbarthiadau a'r cyrsiau amrywiol a gynhigiwn. Mae hi'n anhygoel ac rydyn ni'n lwcus iawn i'w chael yn rhan o'r tîm! Diolch Kate am y cyfan ti’n gwneud. DIWEDDARIADAU PROSIECT Dyma ddiweddariad o brosiectau Outside Lives... Fel arfer mae llawer o brosiectau'n digwydd yn Outside Lives. I gael gwybod mwy am y prosiectau yma a phwy mae nhw'n eu cefnogi ewch i'r dudalen Prosiectau ar ein gwefan a darllenwch amdanynt. Dyma ychydig o uchafbwyntiau: HISTORY OF HERE - prosiect OL gwych sy'n cael ei gyflwyno gan Anastacia Ackers, sy'n dathlu ein hanes lleol. Mae gan y prosiect hwn ei wefan ei hun ac mae'n werth ymweld ag ef. https://www.thehistoryofhere.com/ SINGING IN THE RAIN - prosiect sy'n archwilio Dementia a'i effaith. Cynhyrchwyd eto gan Anastasia Ackers mewn Partneriaeth â Teresa Davies. Cymerwch olwg ar ein Sianel YouTube i weld rhai o'r fideos gwych o'r gyfres "Hopeful Gardener". ON THE TUBE- Mae'r prosiect hwn yn cael ei arwain gan Lucy Powell ac mae'n archwilio ffyrdd ystyrlon o gysylltu pobl ag Anableddau Dysgu â'u cymuned ehangach drwy ffyrdd sy'n cefnogi lles pobl. Edrychwch allan am y rhan olaf o’r prosiect hwn, a fydd yn gweld Outside Lives (mewn partneriaeth ag Ioga Byw) yn cynhyrchu cyfres o fideos "Move it and Music" .. BE S Y ' N D IGWYDD AR Y SAFLE... NEWYDDION SWYDDFA Rydym wrth ein boddau bod gennym swyddfa newydd (ond hen!!) ar y safle... Wedi'i adeiladu'n gyfan gwbl o ddeunyddiau a roddwyd neu oedd yn ail-law, rydym wedi gallu defnyddio grant gan CGLlSFf i ddefnydd da, drwy brynu ac uwchgylchu hen gynhwysydd a'i wneud yn swyddfa / man cyfarfod cwbl weithredol sy'n edrych dros y pwll. Diolch i'n holl wirfoddolwyr gwych am wneud i hyn ddigwydd! SUNDOWNING Mae ein Gasebo (a ariennir gan FLVC/y Loteri Genedlaethol) wedi'i adeiladu'n benodol i gefnogi pobl sydd â dementia ac sy'n dioddef effeithiau ‘Sundowning’. Hwn yw'r term a ddefnyddir pan fydd symptomau dementia yn cael eu dwysau ar adegau penodol o'r dydd (fel arfer pan mai’n tywyllu - felly'r term ‘Sundowning’). Mae wedi ei brofi y gall bod yn yr awyr agored mewn man tawel leihau effaith ‘Sundowning’. Mae ein gasebo felly yn lle diogel i bobl â dementia / alzheimers ddod gyda ffrindiau/teulu/gweithwyr cymorth i ymlacio ac edrych allan dros yr ardd bywyd gwyllt. Os hoffech archebu'r Gasebo defnyddiwch y ffurflen ‘Cysylltu â ni’ ar ein gwefan. (Diolch yn fawr i Newcis sydd wedi ein cefnogi gyda’r prosiect yma). CYNNYDD IWRT Tŷ Lles, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, yw'r ychwanegiad diweddaraf i'r safle. Bydd yr Iwrt yn cael ei ddefnyddio fel cartref i wahanol weithgareddau lles y byddwn yn eu rhedeg ar y safle (pan fyddwn yn gallu). Byddwn hefyd yn ei ddefnyddio fel lleoliad i ffilmio rhai o'n fideos Lles (edrychwch ar ein Sianel YouTube). Yn fuan, byddwn yn gallu cynnig Ioga, Myfyrdod, tylino ynghyd â llu o ddosbarthiadau eraill o'n iwrt hardd sydd wedi'i leoli yn yr ardd bywyd gwyllt. Hoffwn glywed gennych os ydych yn ymarferydd lles ac os hoffech weithio gyda Outside Lives a chynnig rhai o'ch gwasanaethau drwyddo ni. E-bost [email protected] DIOLCHIADAU Diolch yn fawr i'r canlynol am y rhoddion bendigedig mis diwethaf NEU ceisiadau am ddeunyddiau i'w cadarnhau Theatr Clwyd PHL Joinery Outside Lives Ltd. Cyfeiriad Cofrestredig: Neuadd Aberduna, Maeshafn Road, Gwernymynydd, Yr Wyddgrug CH5 7LE
Enter the password to open this PDF file:
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-